Catrin Atkins

Amdana fi


Shwmae! Diolch am fod yma!

Catrin ydwi - coach ers 2019. Dwi wedi helpu degau o ferched i gael mwy allan o'u bywydau- sut bynnag mae hynny'n edrych ac yn teimlo yn dda iddyn nhw.

I rai bydd yn edrych fel newid swydd neu sefyllfa, i eraill bydd yn cynyddu hyder neu lleihau y meddyliau negatif.

Fel coach dwi'n addo:

  • Gwrando yn astud
  • Sicrhau man saff i chi ymlacio a rhannu yn rhwydd.
  • Codi ymwybyddiaeth
  • Gofyn cwestiynau gael chi i ddechrau meddwl yn wahanol
  • Cydgreu ateb unigryw i chi a'ch bywyd.

Dwi'n CARU y gwaith myeddylfryd - nid yn unig gyda ngheleinta, ond hefyd yn fy mywyd fy hun.

Dwi'n ddarllenydd brwd a gellwch weld rhest o fy hoff lyfrau hunan ddatblygiad YMA. O ran cymhwysterau, dwi'n ymarferydd NLP a timeline ac ym mis Mai 2022, mi gwblhais Diploma Professiynol Coachio. Rwyf nawr yn edrych ar gael fy acrediad gyda'r International Coaching Federation. Rwyf hefyd wedi cofrestru gyda'r EMCC.

Mae bod yn gymhwysedig yn bwysig iawn i mi, ond hefyd dwi'n sicr bod fy mhrofiadau bywyd amrywiol wedi fy helpu i gyrraedd lle ydwi, i gydymdeimlo hefo merched ac I'w helpu nhw y run un teimladau a geshi ar y daith.

O redeg busnes meddalwedd hefo ngwr ers 2017, cychwyn grwp rhwydweithio MErched Mewn Technoleg Cymru.

Ar ol derbyn toman o coachio gan eraill dros y 5 mynedd diwethaf, dwi'n GWYBOD o brofiad gymaint mae'n gallu helpu a dwi'n awyddus I helpu gymaint o ferched a phosib I brofi'r trawsnewiddrostyn nhw'u hunain.